SL(5)343 - Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ymchwiliadau y mae Gweinidogion Cymru yn peri iddynt gael eu cynnal mewn perthynas â cheisiadau:

·         am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth yn nyfroedd Cymru sydd â chapasiti nad yw’n fwy na 350 megawat, neu a fydd â chapasiti nad yw’n fwy na hynny.

·         o dan adran 36C o Ddeddf Trydan 1989 i amrywio cydsyniad adran 36.

Gweithdrefn

Negyddol

Materion Technegol: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae'r Rheoliadau'n cynnwys nifer o wallau teipograffyddol. Dylai Rheoliad 2(4)(a)(ii) (yn y fersiwn Saesneg) ddechrau gyda 'where' yn hytrach na 'were'. Yn Rheoliad 3(3) (fersiwn Saesneg) mae 'be' diangen ar ôl 'requirement is'. Yn rheoliad 16(3) (fersiwn Saesneg), ymddengys fod 'to be' diangen.  Er ein bod yn derbyn mai mân wallau yw’r rhain sy'n annhebygol o achosi dryswch, maent yn wallau drafftio fodd bynnag.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae Rheoliad 16(1) yn nodi “rhaid i'r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn dwy wythnos olynol sy’n datgan…” - Nid yw'n glir pryd y bydd y cyhoeddiad yn digwydd.  Mae rheoliad 16(1)(d) yn darparu bod yn rhaid i'r hysbysiad gynnwys lleoliad, dyddiad ac amser yr ymchwiliad. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i gyhoeddiad ddigwydd ar ôl i'r ceisydd gael hysbysiad o'r ymchwiliad o dan reoliad 15. Fodd bynnag, ymddengys na fyddai dim i atal ceisydd rhag rhoi hysbysiad naill ai yn union cyn yr ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad. Gan mai un o ddibenion yr hysbysiad yw gwneud lleoliad, dyddiad ac amser yr ymchwiliad yn hysbys i bersonau y mae unrhyw ganiatâd y gwneir cais amdano yn debygol o effeithio arnynt (fel y gallant fod yn bresennol mae’n debyg), gall cyflwyno'r rhybudd yn union cyn neu yn ystod yr ymchwiliad olygu bod pobl o'r fath yn methu â bod yn bresennol gan nad ydynt wedi cael digon o rybudd.

 

 

 

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 16(2) nid yw'n glir pam na ddefnyddir y diffiniad o “drwy hysbyseb leol” sy’n cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn y rheoliadau ac a ddiffinnir yn rheoliad 2.  Nid yw'n glir felly a yw rheoliad 16(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd wneud rhywbeth ar wahân i gyhoeddi “drwy hysbyseb leol.”

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae elfen craffu technegol yr adroddiad drafft yn cyfeirio at dri gwall drafftio, a derbynnir pob un.

Pwynt 1 – gwallau teipograffyddol

Mae’r pwynt adrodd wedi ei nodi a’i dderbyn. Bydd y llywodraeth yn mynd ati i gywiro’r pwynt hwn drwy gyfrwng slip cywiro.

Pwynt 2 – nid yw Rheoliad 16(1) yn nodi’n glir pryd y mae angen cyhoeddi’r hysbysiad

Mae geiriad rheoliad 16(1) yn deillio o baragraff 4 o Atodlen 8 i Ddeddf Trydan 1989 (“Atodlen 8”) ac mae’n gweithredu ers peth amser, a hynny, mae’n debyg, heb ddim problem. Derbynnir, er hynny, y byddai darparu amserlen ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad yn cynnig eglurder. Caiff offeryn diwygio ei wneud a’i osod cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

Pwynt 3 – yn Rheoliad 16(2) nid yw’n glir pam na ddefnyddiwyd y diffiniad o “drwy hysbyseb leol” a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y rheoliadau ac a ddiffinnir yn rheoliad 2.

Mae’r ddarpariaeth hon yn deillio o baragraff 4 o Atodlen 8. Mae’r geiriad yn fras yr un fath â’r diffiniad o “drwy hysbyseb leol”. Er hynny, derbynnir y byddai’n ddefnyddiol er cysondeb pe bai rheoliad 16(1) yn cyfeirio at gyhoeddi hysbysiad “drwy hysbyseb leol”, gan hepgor 16(2). Caiff offeryn diwygio ei wneud a’i osod cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

12 Mawrth 2019